Pentref gwledig yn ne Ceredigion yw Rhydlewis. Mae'n rhan o gymuned Troedyraur. Fe'i lleolir tua 10 milltir i'r dwyrain o Aberteifi ger Ffostrasol.
Ceir Capel Twrgwyn ger y pentref, un o achosion hynaf y Methodistiaid yn y sir, lle codwyd y capel cyntaf yn 1749.[1]
Cafodd y nofelydd Caradoc Evans ei fagu yn y pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]
Cyfeiriadau