- Erthygl am le yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Cribyn (gwahaniaethu).
Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Cribyn, a leolir tua 7 milltir i'r gogledd o Lanbedr Pont Steffan i'r de o bentrefi Troed-y-rhiw, Mydroilyn a Dihewyd.
Gorwedd Cribyn ar lan Afon Granell, un o ledneintiau Afon Teifi, yn y bryniau sy'n gorwedd rhwng Dyffryn Aeron i'r gogledd a Dyffryn Teifi i'r de. Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Capel Sant Silin a Llanwnen.
Sefydlwyd un o'r ychydig gapeli Undodaidd yng Ngheredigion yn y pentref yn 1790 gan Dafydd Davis Castellhywel ac Evan Davies, Cwmbedw.
Sefydlwyd ysgol gynradd Cribyn gan Gwilym Butler-Wilkins yn 1876. Heddiw mae'n ysgol gynradd gyfrwng Cymraeg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]
Enwogion
Ganwyd y bardd Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) yn ffermdy Maes Mynach, ar lan Afon Granell ger Cribyn, ym 1792. Ceir cyfeiriadau at yr ardal mewn rhai o'i gerddi.
Cyfeiriadau