Pentref bach yng ngogledd-ddwyrain Ceredigion yw Pont-rhyd-y-groes.[1] Mae'r Ystwyth yn llifo drwy'r pentref, a enwir ar ôl y bont sy'n croesi'r afon yn y lle hwn.
Pentref mwyngloddio oedd Pont-rhyd-y-groes yn y gorffennol ac ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf roedd tua naw tafarn yn y lle.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]
Cyfeiriadau