- Am enghreifftiau eraill o enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).
Pentref bychan yng nghymuned Llangeitho, Ceredigion, Cymru, yw Betws Leucu ( ynganiad ), hefyd Capel Betws Leucu[1] neu Capel Betws Lleucu.[2] Fe'i lleolir ger pentref Llangeitho, 4 milltir i'r gorllewin o dref Tregaron, a 7 milltir i'r gogledd o Lanbedr Pont Steffan.
Y santes Lleucu yw nawddsant y Betws. Ni wyddys yn union ai santes Gymreig anhysbys yw'r Lleucu hon ynteu Lucia, un o'r gwyryfon a gysylltir â'r santes Ursula.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]
Cyfeiriadau