Pentref bychan yn ne-orllewin Ceredigion yw Tremain.[1] Fe'i lleolir ar y ffordd A487 tua 4 milltir i'r dwyrain o Aberteifi, rhwng Penparc a Blaenannerch.
Cysegrir yr eglwys leol i Sant Mihangel a'r Holl Angylion.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]
Cyfeiriadau