Mae Pafiliwn Pontrhydfendigaid, a elwir hefyd yn Pafiliwn Pantyfedwen yn neuadd gyngerdd fawr yn mhentref bychan Pontrhydfendigaid ger Tregaron yng Ngheredigion. Gelwir hi hefyd yn Pafiliwn Bont ar lafar, gyda thalfyriad enw Pontrhydfendigaid i "Bont".
Hanes
Rhodd oedd y Pafiliwn gwreiddiol gan Syr David James Pantyfedwen yn y 1960au. Ganwyd Syr David James yn Llundain yn 1887 lle’r oedd y teulu yn cynnal busnes llaeth yn ardal Westminster. Bu’r blynyddoedd cynnar i'w frawd ac yntau yn gyfnod o iechyd bregus ac, o ganlyniad, penderfynodd y teulu symud yn ôl i Geredigion i’r lle yr oeddent wedi ymfudo ohono rai blynyddoedd ynghynt. Sefydlwyd cartref newydd ym Mhantyfedwen, tŷ ar gyrion pentref Pontrhydfendigaid. Dyna'r rheswm dros enw'r Pafiliwn. Roedd David James yn ŵr busnes llwyddiannus iawn gan agor y 'super cinema' gyntaf yn Llundain (y Palmadium yn ardal Palmers Green) gyda lle i fwy na 2,000 o bobl eistedd. Roedd yn Gristion cadarn a bu'n cefnogi'r iaith a'r diwylliant Gymraeg yn frwd ac yn hael, gan sefydlu Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn 1957. Bu farw yn 1967 ychydig fisoedd cyn agoriad swyddogol swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth ar Stryd y Farchnad, Aberystwyth yn 1968, sy'n dal i sefyll ac yn swyddfa i'r Ymddiriedolaeth.[1]
Wedi cyfnod hesb bu i'r Pafiliwn ail-agor yn 2006-07. Agorwyd y Pafiliwn ar ei newydd wedd ar ôl i Gyngor Ceredigion a Llywodraeth Cymru gefnogi gwaith adnewyddu.
Fe gafodd grantiau o £2.3m, yn benna' oherwydd arian Amcan Un. Cynhaliwyd Eisteddfodau Sir yr Urdd, gweithgareddau Ffermwyr Ifanc, cystadleuaeth Cân i Gymru, Gŵyl Ddathlu 50 Cymdeithas yr Iaith, yr Ŵyl Gerdd Dant ac arddangosfeydd yno.
Bu i'r pafiliwn gau dros dro yn 2013 wedi i'r cwmni oedd yn rhedeg y Pafiliwn, Pafiliwn Cyf., ddod i ben yn wirfoddol yn 2013 oherwydd nad oeddynt yn gallu talu dyledion o £80,000 i'r banc.[3]
Heddiw
Mae'r Pafiliwn yn dal ar agor heddiw ac yn cynnal cynadleddau, gweithgareddau a chyngherddau mawr a bach a gan gynnwys 'Sioe Bont'.[4]
Defnydd
Pafiliwn Bont yw lleoliad Eisteddfodau Pantyfedwen Pontrhydfendigaid yn flynyddol ym mis Mai. Mae Pafiliwn Bont yn lleoliad amlbwrpas, sydd wedi'i leoli yng nghanol Cymru, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer pob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau, o logi cynadleddau i gynhyrchu teledu a gigs. Y prif ystafell yw'r awditoriwm gyda lle i dros 2000 o bobl.[5] Gall y neuadd ddal 2,200 o bobl a cheir 3 ystafell gyfarfod, gyda digon o le parcio i hyd at 300 o geir, ac 20 bws.[6]