Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Nelson[1][2] neu (yn wreiddiol) Ffos y Gerddinen. Saif bum milltir i'r gogledd o dref Pontypridd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur) a'r Aelod Seneddol San Steffan yw Wayne David (Llafur).[3][4]
Ceir prif swyddfa Dŵr Cymru yn Ffos y Gerddinen, ac mae cwrt pêl-law awyr agored yn y pentref, efallai yr unig un o'i fath yng Nghymru.
Tyfodd y pentref ar ddechrau y 19g oherwydd Pwll Glo Llancaiach a Phwll Glo Penallta gerllaw. Lleolir maenor Tuduraidd Llancaiach Fawr ger y pentref.
Roedd Eisteddfod yr Urdd wedi cael ei gynnal ar bwys Llancaiach Fawr yn 2015. Mae'r llwybr Taith Taf, a llwybr 47 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd trwy'r pentref.
Geirdarddiad
Tarddodd enw'r pentref, Ffos y Gerddinen, o goed gerddinen sy'n tyfu yn yr ardal. Rnwyd tafarn y pentref, The Rowan Tree ("Y Goeden Gerddinen") o'r un goeden. Mae'r enw Saesneg ar bentref Aberpennar, sef "Mountain Ash", yn dilyn yr un patrwm. Cafodd y pentref yr enw "Nelson" o dafarn yno o'r enw "Lord Nelson Inn"; enwyd y dafarn honno ar ôl yr Arglwydd Nelson a ymwelodd â'r lle yn 1803 - dwy flynedd cyn Brwydr Trafalgar.
Sefydliadau Cymunedol
Yn y pentref mae yna tair eglwys Gristnogol: Yr Eglwys yng Nghymru Sant Ioan y Bedyddiwr (sydd yn Esgobaeth Llandaf a Phlwyf Taf Rhymni), Eglwys y Bedyddwyr, Calfaria, o 1878 ac Eglwys Efengylaidd Bethel a adeiladwyd yn 1974 (yn wreiddiol roedd yn Eglwydd Fethodistiaeth). Roedd yma hefyd gapel yr Annibynwyr, sef Penuel o 1857, a Chapel Methodistiaeth, Salem, o 1859 sydd wedi cau erbyn hyn.
Cafwyd y dathliad Hindŵaidd Durga Puja cyntaf yng Nghymru yn y pentref yn 1972[5].
Sefydlwyd clwb Rygbi'r undeb, y "Nelson Unicorns", yn 1934, ac mae'n chwarae ar y cae rygbi yng nghanol y dref. Mae yna hefyd dîm pêl-droed, sef y "Nelson Cavaliers AFC", a sefydlwyd yn 1972, gan chwarae ar y cae pêl-droed yn y parc.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Nelson, Caerffili (pob oed) (4,647) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Nelson, Caerffili) (553) |
|
12.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Nelson, Caerffili) (4171) |
|
89.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Nelson, Caerffili) (782) |
|
39.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Enwogion
Cyfeiriadau