Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Rhydri[1] (Saesneg: Rudry).[2] Saif i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caerdydd. Heblaw pentref Rhydri ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Draethen, Garth a Waterloo. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 862.
Ymhlith adeiladau nodedig y gymuned, roedd Cefnmabli, plasdy a fu'n destun cerdd gan W. J. Gruffydd. Fe'i niweidiwyd gan dân yn 1994 ac mae erbyn hyn wedi ei droi yn fflatiau. Ceir olion gwaith plwm Rhufeinig yn Draethen.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Chris Evans (Llafur).[3][4]
Enwogion
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Rhydri (pob oed) (1,053) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhydri) (122) |
|
11.9% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhydri) (796) |
|
75.6% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Rhydri) (100) |
|
23.9% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau