Tref fechan yng nghymuned Bedwas, Tretomos a Machen, bwrdeistref sirol Caerffili, Cymru, yw Bedwas.[1][2] Saif ar ororau tref Caerffili, ar ffordd yr A468. Arferid ei alw'n "Bedwas Isaf" gan mai enw arall ar Faesycwmwr oedd Bedwas; unwyd y ddau bentref yn y 19eg ganrif dan yr enw "Bedwas" a dyfodd yn bennaf oherwydd y diwydiant glo.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Chris Evans (Llafur).[4]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau