Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Gelli-gaer,[1] hefyd Gelligaer.[2] Saif yng Nghwm Rhymni. Heblaw pentref Gelligaer ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Cefn Hengoed a Hengoed.
Ceir caer Rufeinig yma, a adeiladwyd rhwng 103 a 111 OC. Bu cloddio archaeolegol ar y safle yn gynnar yn yr 20g. Cysegrwyd eglwys y plwyf i sant Cadog neu Catwg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Chris Evans (Llafur).[4]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Gelli-gaer (pob oed) (18,408) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Gelli-gaer) (2,115) |
|
12% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Gelli-gaer) (16389) |
|
89% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Gelli-gaer) (2,712) |
|
36.4% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Pobl nodedig o Gelli-Gaer
Cyfeiriadau