Pentref bychan yng nghymuned Rhydri, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Ty'n-y-coedcae[1] (Saesneg: Waterloo).[2] Saif i'r dwyrain o dref Caerffili.
Ar un adeg roedd gwaith tunplat mawr yma, oedd yn gwneud offer ar gyfer awyrennau, yn arbrennig i'r gwaith awyrennau a arferai fod yn Machen. Caeodd y gwaith tunplat tua 1943. Roedd hefyd waith paent mawr Coates Brothers, a gaeodd yn y 1990au, a phwll glo.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Wayne David (Llafur).[4]
Cyfeiriadau