Mae'n gorwedd ar ochr dde-ddwyreiniol Maes Glo De Cymru ac roedd pwll glo yn y dref ar un adeg. Er ei bod yn un o drefi mwyaf y fwrdeistref sirol, mae ar ddechrau'r Cymoedd ac mae mynyddoedd gwyrdd o'i chwmpas. Mae mynyddoedd llawn coedwigoedd, gan gynnwys Mynydd Machen (1,188 troedfedd / 362m) a Thwmbarlwm i'r dwyrain (1,375 troedfedd / 419m).
Mae côr meibion llwyddiannus yn y dref a nifer o lwybrau cyhoeddus, gan gynnwys y rhai sy'n mynd ar hyd y gamlas a thros y mynydd. Lleolir amgueddfaddiwydiannol fach yn y dref a chlwb rygbi hefyd.
Roedd tafarn y "Welsh Oak" ar ochrau deheuol pentref Pont-y-Meistr, sydd bellach yn cael ei ystyried fel rhan o dref Rhisga, yn ymgullfan i'r Siartwyr, cyn iddynt orymdeithio i Gasnewydd.