Mae Mynydd Machen yn gopa mynydd a geir rhwng Castell-nedd a Chas-gwent; cyfeiriad grid ST223900. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 177 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 362 metr (1188 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Chwedl Sant Pedr a'r Diafol
Dywed un chwedl y bu Sant Pedr yn ymweld a Chymru. Ar ymddangosiad sydyn y Diafol, cododd nifer o feini mawrion a'u gosod yn ei ffedog er mwyn gallu eu cario yn rhwyddach. Erlidiwyd ef gan y Diafol, a bu'r ddau'n neidio o gopa un mynydd i'r llall. Wrth i'r Diafol lanio ar gopa Mynydd Machen, arhosodd er mwyn dal ei anadl a dechreuodd Sant Pedr daflu'r meini tuag ato, gan eu gadael ar wasgar o gwmpas y fro.
Gweler hefyd
Dolennau allanol
Cyfeiriadau