Bryn neu fynydd ydy Marilyn - wedi'i leoli yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon - a gydag uchder cymharol o o leiaf 150 metr, waeth pa mor uchel ydy'r copa. Bathwyd y term fel gair mwys i gyferbynnu â'r term a ddefnyddir yn yr Alban: Munro.
Ceir 2,010 Marilyn: 1,216 yn yr Alban, 455 yn Iwerddon, 176 yn Lloegr, 5 yn Ynys Manaw a 159 yng Nghymru (yn cynnwys Mynydd Anelog[1]). Arferid cyfri'r Mynydd Du yn Lloegr ac yng Nghymru ond mae bellach yn cael ei gyfri yng Nghymru yn unig.[2] Mae mynyddoedd Eryri'n cael eu gosod yn y dosbarth hwn o fynyddoedd a chopaon.
Casglwyd y rhestr gan Alan Dawson yn ei lyfr 'The Relative Hills of Britain' ond mae'r rhestr hon yn cael ei diweddaru'n aml.