Pentref yng nghymuned Geneu'r Glyn, Ceredigion, Cymru, ydy Llandre[1] neu Llanfihangel Genau'r Glyn. Mae'n gorwedd tua 5 milltir i'r gogledd o Aberystwyth, yng ngogledd-orllewin y sir, ar y lôn i'r Borth. Mae'r pentref ar Rheilffordd Arfordir Cymru, ond does dim gorsaf yno. I'r gogledd ceir pentref Dôl-y-bont.
Yr enw traddodiadol ar y pentref a'r gymuned yw Llanfihangel Genau'r Glyn, sy'n tarddu o'i leoliad yn hen gwmwd Genau'r Glyn, a fu'n rhan o gantref Penweddig. Cyn hynny Llanfihangel Castell Gwallter oedd yr enw. Newidiwyd yr enw i Lanfihangel Genau'r Glyn ddiwedd yr 16g. Yna, yn y 19g, rhoddwyd yr enw cwbwl ddiystyr Llandre ar y pentre; ond parhaodd yr hen enw mewn bri a 'Llanfihangel Genau'r Glyn' a geir gan amlaf mewn llyfrau ar hanes Cymru.[2]
Ymhlith hynafiaethau'r ardal ceir Castell Gwallter, castell mwnt a beili a godwyd gan y Normaniaid tua'r flwyddyn 1110. Saif hanner milltir i'r gorllewin o'r pentref. Ceir yn ogystal fryngaer o Oes yr Haearn ar y bryn i'r dwyrain o'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]
Enwogion
Cyfeiriadau
Dolenni allanol