Mecsico Newydd
Mae Mecsico Newydd (Saesneg: New Mexico, Sbaeneg: Nuevo México, Nafacho: Yootó Hahoodzo) yn dalaith yn ne-orllewin yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd ar y ffin â Mecsico. Ceir tair prif ardal ddaearyddol: llwyfandir gwastad yn y dwyrain, ardal fynyddig yn y canol a dorrir ar ei thraws gan Afon Grande, ac ardal gymysg o fynyddoedd a gwastadiroedd yn y gorllewin. Mae'r trefi a dinasoedd yn gymharol brin a'r boblogaeth i'w cael yn bennaf yn y dinasoedd mawr fel Albuquerque. Roedd Mecsico Newydd ym meddiant Sbaen yn yr 17g ond roedd dan reolaeth Mecsico pan gafodd ei chipio gan yr Unol Daleithiau yn 1848. Ni ddaeth yn dalaith tan 1912, a hynny ar ôl cyfres o ryfeloedd yn erbyn yr Apaches a Navajo brodorol a chyfnod o ansefydlogrwydd nodweddiadol o'r "Gorllewin Gwyllt". Bu rhaid wrth 25 mlynedd ar ôl Rhyfel Cartref America i'r llywodraeth yn Washington fedru sefydlu ei hawdurdod dros y pobloedd brodorol a'r ymsefydlwyr gwyn fel ei gilydd. Cychwynodd hyn yn 1864 pan gafodd y Navajo eu gorfodi i wneud y "Daith Hir" i wersyll Bosque Redondo. Cafodd yr Apache eu symud i amryw wersyll ac ni ddaeth ddiwedd i'r Rhyfeloedd Apache tan i'r pennaeth Geronimo a'i fand bach o ffyddloniaid ildio o'r diwedd yn 1886. ![]() Dinasoedd Mecsico Newydd![]()
DaearegMaint Mecsico Newydd yw 121,412 milltir sgwâr. Mae gan y dalaith anialwch, mynyddoedd, mesáu a fforestydd. Ymysg ei hafonydd yw’r Rio Grande, Afon Pecos, Afon Canadian, Afon San Juan ac Afon Gila. Mae 5 Fforest Genedlaethol:[1] Mae Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol yr Unol Daleithiau’n rheoli’r parciau isod:- [2] ![]()
![]() CyfeiriadauDolen allanol
|