Mae Wisconsin yn dalaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd rhwng Afon Mississippi i'r gorllewin, Llyn Michigan i'r dwyrain a Llyn Superior i'r gogledd. Mae Iseldiroedd y Canolbarth yn ildio i Ucheldir Superior yn y gogledd, sy'n rhan o Darian Canada ac yn cynnwys nifer o lynnoedd a choedwigoedd. Rhoddwyd Wisconsin i'r Unol Daleithiau gan Brydain Fawr yn 1783. Gwelwyd mewnlifiad mawr o'r dwyrain yn y 1820au. Daeth yn diriogaeth yn 1836 ac yna'n dalaith yn 1848. Madison yw'r brifddinas.
Llysenw Wisconsin yw "Talaith y Broch" (Saesneg: the Badger State), am fod broch Americanaidd i'w weld ar ben arfbais y dalaith.[1]
Dinasoedd
Mae'r dinasoedd yn Wisconsin gyda phoblogaeth o 50,000 neu fwy (amcangyfrifiad Cyfrifiad 2005) yn cynnwys:
Milwaukee, poblogaeth 578,887 (ardal fetroplitaidd 1,709,926), dinas fwyaf