Mae Gorlelwin Virginia yn dalaith yn nwyrain canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n cynnwys Dyffryn Mawr Appalachia yn y dwyrain a'r Gwastatir Appalachian yn y gorllewin. Gorwedd y rhan fwyaf o'r dinasoedd mawr ar Afon Ohio yn y gorllewin. Roedd Gorllewin Virginia yn rhan o Virginia yn wreiddiol ond yn Rhyfel Cartref America gwrthododd encilio o'r Undeb gyda gweddill y dalaith a daeth yn dalaith ynddi ei hun fel rhan o'r Undeb yn 1863. Charleston yw'r brifddinas.