eastern theater of the American Civil War, Western Theater of the American Civil War, Trans-Mississippi theater of the American Civil War, Pacific coast theater of the American Civil War
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg
Ymladdwyd Rhyfel Cartref America (1861–1865) rhwng Unol Daleithiau America ac un ar ddeg talaith yn y De, oedd yn dymuno gadael yr Unol Daleithiau. Yr un ar ddeg talaith oedd Texas, Arkansas, Louisiana, Mississippi, Tennessee, Alabama, Georgia, Florida, De Carolina, Gogledd Carolina a Virginia. Dechreuodd y rhyfel yn dilyn ethol Abraham Lincoln yn Arlywydd yr Unol Daleithiau ar ddiwedd 1860 ac ar ôl iddo ddechrau yn ei swydd yn swyddogol ym Mawrth 1861. Achosodd y Rhyfel Cartref raniadau yn y wlad rhwng y gogledd a’r de. Prif asgwrn y gynnen oedd caethwasiaeth; roedd pob un o'r taleithiau oedd yn dymuno gadael yr Undeb yn rhai lle'r oedd caethwasiaeth yn elfen bwysig. Er nad oedd Lincoln wedi bygwth dileu caethwasiaeth, ystyrid ef yn elyn i'r gyfundrefn. Ofnai’r deheuwyr y byddai’n dileu caethwasiaeth yn y taleithiau deheuol ac y byddai’r taleithiau newydd fyddai’n cael eu ffurfio yn cael eu gwahardd rhag cadw caethwasiaeth. Gan hynny, penderfynodd yr un ar ddeg talaith hyn adael yr Unol Daleithiau. Roeddent yn galw eu hunain yn Daleithiau Cydffederal ac roedd ganddynt eu byddin eu hunain, sef y Fyddin Gydffederal. Dewiswyd Jefferson Davis ganddynt fel eu Harlywydd.[1]
Roedd yr Ymwahanwyr, sef yr un ar ddeg talaith a oedd eisiau torri’n rhydd oddi wrth Undeb Unol Daleithiau America, yn cefnogi parhad caethwasiaeth. Dadleuent mai hawliau’r taleithiau unigol oedd y grym sofran terfynol oddi mewn i’r Undeb. Yn nhaleithiau’r De roedd y niferoedd mwyaf o gaethweision ynghyd â’r ganran uchaf o deuluoedd gwynion oedd yn berchen ar gaethweision. Perchnogion planhigfeydd fyddai’n aml yn arwain y mudiad Ymwahanu, a byddai’r gwrthwynebiad iddynt yn dod oddi wrth ffermwyr nad oedd yn gaethfeistri ac nad oedd ganddynt lawer o gysylltiad (os o gwbl) â chaethwasiaeth y trefedigaethau.
Roedd mwyafrif helaeth y Gogleddwyr yn gwrthod y gwahanu ac yn ei weld yn ddirmyg bradwrus ar y Cyfansoddiad. Roeddent yn cysylltu ymwahanu ag anarchiaeth ac ofnent y byddai’n arwain at rannu’r Unol Daleithiau. Roedden nhw o blaid cadw’r Undeb.[2]
Y Rhyfel, 1861-65
Datganiad Rhyddfreinio
Dechreuodd yr ymladd ar 12 Ebrill1861, pan ymosododd y gwrthryfelwyr ar Fort Sumter yn nhalaith De Carolina. Erbyn 1862 roedd brwydro ar raddfa eang wedi datblygu, gyda niferoedd mawr yn cael eu lladd. Ym mis Medi 1862, cyhoeddodd Lincoln ryddid y caethion. Hwn oedd y Datganiad Rhyddfreinio - dogfen a fyddai’n drobwynt pwysig o ran rhyddhau’r caethion. Wrth i’r rhyfel fynd yn ei flaen, cynyddodd y pwysau ar Lincoln i ryddhau’r caethweision, ac wedi buddugoliaeth yr Undeb yn Antietam cyhoeddodd Lincoln y Datganiad Rhyddfreinio. Dywedai’r Datganiad y byddai’r holl gaethweision a oedd o dan reolaeth y Taleithiau Cynghreiriol / Cydffederal yn rhydd o 1 Ionawr 1863 ymlaen. Roedd y Datganiad yn strôc wleidyddol ysbrydoledig oherwydd llwyddodd Lincoln i fodloni ceidwadwyr y Gogledd, tawelu’r Radicaliaid yn y Gyngres a chreu cefnogaeth i’r Undeb yn Ewrop. Roedd hefyd yn annog caethweision i ddianc wrth i filwyr y Gogledd agosáu.
Fodd bynnag, ni wnaeth y Datganiad Rhyddfreinio roi terfyn ar gaethwasiaeth ym mhobman na rhyddhau ‘pob caethwas’. Ond fe newidiodd y rhyfel, ac i gefnogwyr yr Undeb, o 1863 ymlaen roedd y rhyfel bellach yn rhyfel yn erbyn caethwasiaeth hefyd.
Milwyr Du'r Undeb
Yn ystod dwy flynedd gyntaf y Rhyfel Cartref, roedd y Gogledd wedi gwrthod recriwtio milwyr duon. Dim ond ar ôl gweithredu’r Datganiad Rhyddfreinio yn Ionawr 1863 y dechreuwyd ymrestru milwyr duon ar raddfa helaeth. Chwaraeodd pobl ddu amlwg, fel Frederick Douglass, rôl ddylanwadol fel asiantau recriwtio i fyddin yr Undeb. Erbyn diwedd y rhyfel, roedd 186,000 o bobl ddu wedi gwasanaethu ym myddin yr Undeb, sef un rhan o ddeg o holl filwyr yr Undeb.
Roedd recriwtio dynion du yn cynnig cyfleoedd newydd i ddynion gwyn gael comisiynau, oherwydd roedd dynion du yn gwasanaethu mewn catrodau ar wahân dan arweiniad swyddogion gwyn. Lladdwyd llawer mwy o filwyr du na rhai gwyn gan nad oedd y Gynghrair yn fodlon trin milwyr du fel carcharorion rhyfel. Golygai’r polisi hwn na chaent gyfle i gael eu cyfnewid am garcharorion y Gynghrair. Cafodd milwyr du a ddaliwyd eu trin yn giaidd, a byddent naill ai’n cael eu gorfodi i ddychwelwyd i fod yn gaethweision neu’n cael eu dienyddio. Digwyddodd un o’r hanesion mwyaf cywilyddus yn Fort Pillow, Tennessee, ym 1864 pan lofruddiwyd 262 o filwyr du mewn gwaed oer gan filwyr buddugoliaethus y Gynghrair. Ond roedd cadfridogion y Gogledd yn edrych ar y defnydd o filwyr du, yn enwedig cyn-gaethweision, fel arf pwerus yn erbyn y Gynghrair.
Yn ystod y Rhyfel Cartref bu caethweision y De’n yn gweithredu’n effeithiol i geisio sicrhau bod caethwasiaeth yn cael ei rwystro, naill ai drwy ffoi i’w rhyddid neu, yn syml, drwy atal eu llafur. Felly, roedd y sefydliad yn dadfeilio hyd yn oed wrth i’r Gynghrair ymladd i’w gadw. Ym 1864, â’r rhyfel yn dechrau llithro o afael y Gynghrair, ystyriwyd camau eithafol i geisio gorfodi caethweision i ymuno â’r fyddin. Pasiwyd deddf ym Mawrth 1865 gan Gyngres y Gynghrair a fyddai’n arfogi 300,000 o gaethweision. Ond daeth y rhyfel i ben ychydig wythnosau’n ddiweddarach, ac felly ni weithredwyd y cynllun erioed.
Erbyn 1864 roedd y diwedd yn nesáu, wrth i fanteision yr Undeb o ran poblogaeth fwy ac economi gryfach ddechrau cael effaith. Bu brwydro ffyrnig rhwng Grant a Lee yn nhalaith Virginia yn ystod haf 1864 a chipiodd William Tecumseh Sherman ddinas Atlanta, Georgia. Yn 1865, ildiodd Lee ei fyddin i Grant yn Appomatox a daeth y rhyfel i ben. Rhyddhawyd y caethion i gyd.
Un hanesyn diddorol yw y dywedir fod y ddau Arlywydd oedd yn gwrthwynebu ei gilydd yn y rhyfel, sef Abraham Lincoln a Jefferson Davis, o dras Gymreig.[3][4]
Diwedd y Rhyfel Cartref
Y sgil diwedd y Rhyfel Cartref roedd yn rhaid datrys dwy broblem bwysig ar yr un pryd, sef sut i gael y De i ailymuno â’r Undeb a sut i ddiffinio statws y dynion du rhydd yng nghymdeithas America. Roedd gwrthdaro gwleidyddol dwys yn nodweddu’r blynyddoedd yn union ar ôl y rhyfel rhwng 1865 a 1877; aeth y genedl i’r afael â’r heriau hyn yn y cyfnod sy’n cael ei alw'n ‘ailymgorfforiad’ (the reconstruction).
Roedd y gwrthdaro dros yr Ailymgorfforiad wedi dechrau hyd yn oed cyn i’r rhyfel ddirwyn i ben. Yn Rhagfyr 1863, cyhoeddwyd Datganiad Amnest ac Ailymgorfforiad gan Abraham Lincoln, a oedd yn amlinellu llwybr a fyddai’n caniatáu i bob talaith yn y de ailymuno â’r Undeb. Cynigiodd Lincoln raglen Ailymgorfforiad nad oedd yn llym, ac a ddeilliai o’i awydd i wella clwyfau rhyfel mor gyflym â phosibl a rhoi terfyn ar yr elyniaeth rhwng y Gogledd a’r De.
Llofruddiaeth Abraham Lincoln
Ar 14 Ebrill 1865, ddyddiau wedi i’r rhyfel ddod i ben, gyda’r De yn ildio ar 9 Ebrill 1865, saethwyd Lincoln gan un a gydymdeimlai â’r Cydffederalwyr, sef John Wilkes Booth. Roedd olynydd Lincoln, Andrew Johnson, yn wrthwynebydd di-flewyn-ar-dafod i’r caethfeistri cyfoethog yn y De, ac fel seneddwr o’r De roedd wedi gwrthod ymuno â’r Gynghrair, gan ddewis cefnogi’r Undeb. Dywedodd Johnson ei bod yn fwriad ganddo gyflawni polisïau Ailymgorfforiad Lincoln, er ei fod, yn wahanol i Lincoln, yn credu y dylid cosbi’r De am ei rôl yn y rhyfel.
Olynodd Andrew Johnson Lincoln fel yr Arlywydd newydd. Unwaith y daeth i’w swydd, mabwysiadodd Johnson bolisi llai llym na’r hyn a ddisgwylid. Erbyn diwedd 1865, roedd Johnson wedi caniatáu i Alabama, Florida, Georgia, Mississippi, Gogledd Carolina, De Carolina a Texas greu llywodraethau sifil newydd oedd mewn gwirionedd yn adfer y sefyllfa fel yr oedd cyn y rhyfel. Derbyniodd swyddogion y fyddin Gydffederal a pherchenogion planhigfeydd mawr swyddi taleithiol. Etholwyd cyn-gynghreiriaid Cydffederal a chadfridogion i’r Gyngres. Anfonodd talaith Georgia Alexander Stephens, y cyn is-arlywydd Cydffederal, i Washington fel seneddwr.
Newidiadau i’r Cyfansoddiad
Y Trydydd Gwelliant ar Ddeg
Pasiwyd y Trydydd Gwelliant ar Ddeg i gyfansoddiad America yn Ionawr 1865.[5] Gwaharddwyd caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau ac roedd yn rhaid i bob talaith yn y De dderbyn y gwelliant os oedd am ailymuno ag Unol Daleithiau America.
Roedd cynllun Ailymgorffori Johnson yn sicrhau y dylai pob talaith dderbyn y gwelliant a gwarantu rhai hawliau sylfaenol i gaethion rhydd - gallent briodi, bod yn berchen ar eiddo, gwneud cytundebau, a thystio mewn llys yn erbyn dynion du eraill. Ond pasiodd taleithiau’r De y ‘codau du’ oedd yn cyfyngu ar weithgareddau caethion rhydd. Sefydlodd rhai codau arwahanu hiliol mewn mannau cyhoeddus; roedd y rhan fwyaf ohonynt yn gwahardd priodasau rhynghiliol, ynghyd â hawl dynion du i wasanaethu ar reithgor a rhoi tystiolaeth mewn llysoedd yn erbyn dynion gwyn. Er bod y ‘codau du’ yn golygu nad oedd y caethion rhydd yn gaethweision bellach, nid oeddent mewn gwirionedd wedi eu rhyddhau'n llwyr.[6]
Wedi diwedd y Rhyfel Cartref pasiodd UDA nifer o ddiwygiadau a chyfreithiau a ychwanegwyd at Gyfansoddiad UDA a oedd yn gwella hawliau pobl ddu. Roedd 14eg Gwelliant y Cyfansoddiad (1868) yn rhoi statws cydradd cyfreithiol i gaethweision a rhyddhawyd wedi’r Rhyfel Cartref ac i bobl ddu UDA. Golygai hyn eu bod yn cael statws dinasyddion cydradd[7] ac yn 1870 pasiwyd y Pymthegfed Gwelliant a roddai hawl i ddynion du bleidleisio.
Parhaodd y frwydr yn erbyn hiliaeth yn UDA oherwydd roedd rhagfarnau, casineb ac erledigaeth yn parhau i frawychu, achosi tensiynau, a lladd. Roedd hiliaeth yn parhau i fodoli yn y taleithiau deheuol, ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd y KKK wedi ei sefydlu, gan gyrraedd ei anterth o ran aelodaeth yn y 1920au. Gwelodd y 20g ymgyrch newydd i ddileu'r rhagfarnau a’r anghyfiawnderau hyn gyda’r Mudiad Hawliau Sifil ac arweinyddion fel Martin Luther King yn dod i flaen y gad.