Dechreuodd y frwydr pan groesodd byddin yr Undeb Afon Rappahannock ar fore 27 Ebrill, 1863. Erbyn 30 Ebrill roeddynt ger Chancellorsville, a dechreuodd yr ymladd ar 1 Mai. Parhaodd hyd nes i fyddin yr Undeb orfod encilio ar noson 5 a 6 Mai.
Roedd yn fuddugoliaeth bwysig i'r De, ond collasant un o'u cadfridogion gorau pan saethwyd Stonewall Jackson gan ei filwyr ei hun wrth iddo ddychwelyd at y fyddin yn y gwyll. Bu farw o'i glwyfau ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.