Mae Rhode Island neu yn Gymraeg Ynys Rhodos[1] yn dalaith yng ngogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd ar arfordir Cefnfor Iwerydd yn Lloegr Newydd. Hi yw'r lleiaf o daleithiau'r Undeb ond yr ail o ran dwysedd poblogaeth. Roedd Rhode Island yn un o 13 talaith gwreiddiol yr Unol Daleithiau a'r gyntaf i ddatgan ei hannibyniaeth ar Brydain. Cafodd ei wladychu am y tro cyntaf yn 1636. Providence yw'r brifddinas. Rhwng 1790 a 2020 yr enw swyddogol oedd The State of Rhode Island and Providence Plantations.