Erthygl am y dalaith ym Mecsico yw hon. Am ystyron eraill i'r enw, gweler Chihuahua (gwahaniaethu).
Un o 31 talaith ffederalMecsico, sy'n gorwedd yng ngogledd-orllewin y wlad am y ffin ag yr Unol Daleithiau (UDA), yw Chihuahua.
Mae ganddi arwynebedd o 244,938 km sgwar (94,571.1 milltir sgwar). Fe'i amgylchynnir gan daleithiau Sonora, Sinaloa, Durango a Coahuila ym Mecsico ei hun a gan Texas a New Mexico dros y ffin i'r gogledd, yn UDA. Chihuahua yw'r dalaith fwyaf ym Mecsico, ffaith sydd wedi ennill iddi'r llysenw "El Estado Grande" ('Y Dalaith Fawr').
Yn 2005, roedd 3.2 miliwn o drigolion yno. Y ddinas fwyaf yw Ciudad Juárez, ar y ffin ag UDA, gyda 1,301,452 o bobl. Chihuahua, gyda 748,518 o drigolion, yw prifddinas y dalaith.
Gwelwyd sawl brwydr rhwng y pobloedd Apache brodorol a'r Mecsicanwyr yn y dalaith yn y 19eg ganrif; lladdwyd Victorio a llawer o'i fand ger Tres Castillos yn 1880, er enghraifft. Bu gan Chihuahua rhan allweddol yn Chwyldro Mecsico pan fu'n dyst i ymladdfeydd mawr rhwng y chwyldroadwyr dan Pancho Villa a'r fyddin ffederal.