Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-Nedd Port Talbot, Cymru, yw Tai-bach, hefyd Taibach. Mae yn rhan ddeheuol tref Port Talbot, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 4,583.
Mae'r pentref yn rhedeg ar hyd yr A48, sydd â'r enwau "Commercial Road" a "Heol Margam" fan hyn. I'r ochor gorllewinol mae'r nant Ffrwdwyllt a Pharc Coffaol Talbot. Mae'n gartref i Glwb Rygbi Taibach.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Stephen Kinnock (Llafur).[2]
Magwyd Richard Burton a Llewellyn Heycock yma, a chymerodd y diwethaf y teitl "Arglwydd Heycock o Dai-bach".
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Tai-bach (pob oed) (4,799) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tai-bach) (354) |
|
7.6% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tai-bach) (4253) |
|
88.6% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Tai-bach) (881) |
|
41.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau