Enwau ysgolion Llansawel yw Ynysmaerdy, Brynhyfryd a Llansawel ger Eglwys y Santes Mair. Yng ngorllewin Llansawel mae pentre Bedd y Cawr sydd wedi adeiladu ar farian terfynol Cwm Nedd ac yn y dwyrain mae ardal Ynysmaerdy. Yr enw Saesneg ar y dref yw Briton Ferry. Mae rhai pobl yn meddwl bod rhan gyntaf yr enw yn gytras â'r elfen 'Bryddan' yn yr enw Brynbryddan, sydd dros y bryn ym mhentref Cwmafan (felly: 'Rhyd Bryddan' efallai).
Am ddegawadau Llansawel oedd cartref Ysbyty Gyffredinol Castell Nedd a oedd yn gwasanaethu yr ardaloedd o amgylch Port Talbot a Chastell-nedd ond nawr mae ysbyty newydd Gwaun Baglan wedi cymryd ei lle.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.