Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Blaen-gwrach,[1] hefyd Blaengwrach.[2] Saif ar lan ddwyreiniol afon Nedd, i'r gogledd-ddwyrain o Resolfen. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,148.
Mae'r ardal yn un fryniog, yn cynnwys Mynydd Resolfen (383 medr), Mynydd Pen-y-Cae (573 m) a Chraig-y-Llyn (600 m). Mae dwy ran i'r pentref, Blaen-gwrach a Cwm-gwrach, ond yn aml defnyddir Cwm-gwrach am y pentref a Blaen-gwrach ar gyfer yr ardal ehangach.
Ceir olion o gangen o Gamlas Nedd yma, ac roedd gwaith haearn Penallt ar agor rhwng 1839 ac 1854. Roedd capel Anghydffurfiol cynnar yma, a sefydlwyd yn 1662; troes yn achos Undodaidd yn 1772 a chaeodd yn 1878.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Carolyn Harris (Llafur).[4]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Blaen-gwrach (pob oed) (1,141) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Blaen-gwrach) (162) |
|
14.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Blaen-gwrach) (998) |
|
87.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Blaen-gwrach) (174) |
|
37.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau