Resolfen

Resolfen
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,316, 2,163 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,038.78 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.72°N 3.7°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000623 Edit this on Wikidata
Cod OSSN828025 Edit this on Wikidata
Cod postSA11 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJeremy Miles (Llafur)
AS/au y DUCarolyn Harris (Llafur)
Map

Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Resolfen (Saesneg: Resolven). Lleolir yn nyffryn Afon Nedd, ar bwys yr A465, sef ffordd 'Blaenau'r Cymoedd'. Y pentref yw prif annedd plwyf Resolfen, ac ynghyd â phlwyf Clun a Melincwrt mae'n cyfansoddi ward etholaeth Resolfen.

Mae nifer o ystadau diwydiannol yn yr ardal o'i amgylch, sydd wedi dioddef yn ystod yr 1980au a'r 1990au. Lleolir marchnad dan dô Rheola ar safle hen ffatri ger llaw. Mae'r ardal ehangach yn wledig a deiniadol ac mae Camlas Nedd yn llifo yr ochr arall i'r A465. Mae'r pentref hefyd yn gyn-gartref i'r AS Peter Hain.

Mae'r band roc arbrofol, Spray Me Spray You, wedi recordio demos ar gyfer eu albwm yng Nghanolfan Cymdeithas Resolfen. Daw'r band El Goodo o'r pentref hefyd.

Mae'r pentref hefyd yn lleoliad ar gyfer un o gymalau mwyaf adnabyddus Rali Prydain Fawr, Cymru ers sawl blynedd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Carolyn Harris (Llafur).[2]

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Resolfen (pob oed) (2,316)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Resolfen) (273)
  
12.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Resolfen) (2064)
  
89.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Resolfen) (439)
  
43.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolenni allanol