Pentref ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Trebannws (Saesneg: Trebanos). Saif yng Nghwm Tawe. Ynghyd â Craig Trebannws a rhan o Bontardawe, mae'n creu etholaeth Trebannws ar gyngor bwrdeistrefol Castell-nedd Port Talbot.
Cafodd y pentref cryn dipyn o sylw gan y wasg yn 2006 a 2007 yn sgîl protestiadau yn erbyn Pibell Nwy De Cymru a fyddai'n gorfod pasio drwy'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]
Cyfeiriadau