2015 Tour de France, stage 1, 2015 Tour de France, stage 2, 2015 Tour de France, stage 3, 2015 Tour de France, stage 4, 2015 Tour de France, stage 5, 2015 Tour de France, stage 6, 2015 Tour de France, stage 7, 2015 Tour de France, stage 8, 2015 Tour de France, stage 9, 2015 Tour de France, stage 10, 2015 Tour de France, stage 11, 2015 Tour de France, stage 12, 2015 Tour de France, stage 13, 2015 Tour de France, stage 14, 2015 Tour de France, stage 15, 2015 Tour de France, stage 16, 2015 Tour de France, stage 17, 2015 Tour de France, stage 18, 2015 Tour de France, stage 19, 2015 Tour de France, stage 20, 2015 Tour de France, stage 21
Chris Froome enillodd y crys melyn (dosbarthiad cyffredinol).
Rheolau newydd
Ail-gyflwynwyd bonws amser ar gyfer rhifyn 2015 o'r ras. Yn rhan gyntaf y ras, o gymal 2 hyd 8, bydd y tri cyntaf i groesi'r llinell yn derbyn bonws o 10, 6 a 4 eiliad yr un. Ni wobrwyir bonws ar gyfer cymal treial amser. Newidir system bwyntiau'r gystadleuaeth gwibio yn ogystal: gwobrwyir 50 pwynt yn hytrach na 45 am fuddugoliaeth, 30 yn hytrach na 35 pwynt ar gyfer ail safle, ac 20 yn hytrach na 30 ar gyfer trydydd safle. Bwriad y newidiadau yw i wneud buddugoliaeth mewn cymal yn fwy werthfawr.[3] Dim ond chwe cymal gwastad y Tour a gaiff eu heffeithio gan y newid hwn (cymalau 2, 5, 6, 7, 15 a 21). Mewn saith o'r cymalau (y cymal â choblau a'r chwe cymal mwy fryniog, sef 3, 4, 8, 10, 13, 14 ac 16) bydd yr enillydd yn derbyn 30 pwynt, 25 ar gyfer yr ail, ac yn y blaen.[4] Yn y cymalau mynyddig a'r treial amser, (cymalau 1, 11, 12, 17, 18, 19, 20) rhoddir 20 pwynt i'r enillydd. Ni wobrwyir unrhyw bwyntiau ar gyfer cymal 9, sef y treial amser tîm.[5]
Y Timau
Mae disgwyl i bob un o'r 17 tîm ar Gylchdaith Broffesiynol yr UCI gymryd rhan yn y ras ac mae trefnwyr y ras hefyd wedi rhoi gwahoddiad i bum tîm sy'n rasio ar yr haen nesaf o feicio proffesiynol.
Timau "World Tour"
Y ffefrynnau i ennill y cymalau oedd Mark Cavendish (Etixx-Quick Step), a oedd wedi profi ei ffitrwyd yn 2015 drwy ennill 12 sbrint mewn amryw o rasys a dosbarthiad cyffredinol Dubai Tour. Un o'r cystadlwyr eraill oedd Alexander Kristoff (Team Katusha), gyda 18 buddugoliaeth yn 2015 hyd y Tour. Roedd Andre Greipel (Lotto-Soudal), hefyd yn dod â'i drên arwain i'r Tour, fel Cavendish, gyda Peter Sagan (Tinkoff-Saxo) yn debygol o gipio nifer o'r sbrintiau yn y bryniau, lle byddai llai o sbrintiau, ac yntau wedi dangos ei fod yn gryfach na'r sbrintwyr eraill dros fryniau bychain yn y gorffennol. Roedd Sagan hefyd wedi cipio'r crys gwyrdd am dair mlynedd yn ganlynol, ond bydd hynny'n anos yn 2015 oherwydd y newid i'r rheolau, a'r ffaith mai ei swyddogaeth arall wrth reidio'r Tour oedd gefnogi arweinydd y tîm, Contador.[11][12] Yn nodweddiadol hefydd oedd absenoldeb Marcel Kittel, a enillodd y nifer fwyaf o gymalau yn 2014, oherwydd diffyg ffitrwydd.[13]
Roedd pedwar prif ddosbarth yn y Tour de France 2015 gyda'r dosbarthiad cyffredinol (Ffrengig: classement général) y pwysicaf. Cyfrifir y dosbarthiad cyffredinol trwy adio amser pob beiciwr ar ddiwedd pob cymal. Y beiciwr gyda'r cyfanswm isaf o amser yw arweinydd y ras ac sy'n cael yr hawl i wisgo'r Crys Melyn (Ffrangeg: Maillot Jaune).[15][16]
Yn y dosbarthiad pwyntiau, lle mae'r arweinydd yn gwisgo'r Crys Gwyrdd (Ffrangeg: Maillot Vert) mae'r beicwyr yn casglu pwyntiau am orffen ymysg y goreuon ar ddiwedd cymal a hefyd mewn rasys gwibio sydd yn digwydd mewn mannau penodol yn ystod pob cymal.
Ceir pwyntiau tuag at y Crys Dot Polca (Ffrangeg: Maillot à Pois) am gyrraedd copâu'r gwahanol ddringfeydd ar bob cymal. Ceir gwahanol gategoriau o ddringfeydd gyda'r hors catégorie - y categori uchaf - yn werth mwy o bwyntiau na'r dringfeydd categori cyntaf, ail, trydydd neu bedwerydd.
Nodir y beiciwr ifanc gorau yn y ras gyda'r Crys Gwyn (Ffrangeg: Maillot Blanc) sy'n cael ei roi i'r beiciwr uchaf yn y dosbarthiad cyffredinol sydd wedi eu geni ar ôl neu ar 1 Ionawr 1989.
Ar gyfer dosbarthiad tîm, cymerir amser y tri beiciwr cyntaf o bob tîm i orffen pob cymal; y tîm sydd ar y blaen yw'r tîm sydd â'r cyfanswm amser lleiaf. Mae'r tîm sy'n arwain y dosbarthiad tîm yn gwisgo rhifau gyda chefndir melyn ar eu cefnau.
Mae rheithgor yn cyfarfod ar ôl pob cymal, heblaw treial amser a'r cymal derfynol, er mwyn pleidleisio dros y beiciwr maent yn ei ystyried sydd wedi brwydro'n fwy nag unrhyw un arall yn ystod y dydd.[16] Yn ystod y cymal canlynol, mae'r enillydd yn gwisgo rhif gyda chefndir coch ar ei gefn, yn hytrach nag un gwyn. Ar ddiwedd y Tour de France, y reidiwr gyda'r cyfanswm mwyaf o bleidleisiau dros pob cymal sy'n cael ei adnabod fel y reidwr mwyaf brwydrol.[16]