Luke RoweSeiclwr rasio o Gymru ydy Luke Rowe (ganwyd 10 Mawrth 1990).[1] BywgraffiadGanwyd Rowe yng Nghaerdydd, a dechreuodd rasio yn ifanc iawn, gan reidio gyda'i rieni ar tandem i gychwyn. Ymunodd â glwb Maindy Flyers, yn Stadiwm Maindy pan ddechreuodd fwynhau'r seiclo. Dewiswyd ef i fod yn aelod fod yn aelod o Raglen Datblygu Olympaidd British Cycling pan oedd yn y categori iau.[2] Cystadlodd Rowe dros Brydain yn Ewrop am y tro cyntaf fel aelod o'r tîm pursuit a enillodd y fedal aur ym Mhencampwriaethau Trac Ewrop 2007. Daeth yn ail ym Mhencampwriaethau Ras Ffordd Ewrop 2008, ac enillodd y Madison, ar y cyd gyda Mark Christian, a'r arian yn y tîm pursuit ym Mhencampwriaethau Trac Ewrop 2008.[3] Mae ei frawd Matt hefyd yn seiclwr rasio, ac mae ei dad Courtney yn hyfforddi'r seiclwr Paralympaidd Simon Richardson. CanlyniadauTrac
Ffordd
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|