2003 Tour de France, prologue, 2003 Tour de France, Stage 1, 2003 Tour de France, Stage 2, 2003 Tour de France, Stage 3, 2003 Tour de France, Stage 4, 2003 Tour de France, Stage 5, 2003 Tour de France, Stage 6, 2003 Tour de France, Stage 7, 2003 Tour de France, Stage 8, 2003 Tour de France, Stage 9, 2003 Tour de France, Stage 10, 2003 Tour de France, Stage 11, 2003 Tour de France, Stage 12, 2003 Tour de France, Stage 13, 2003 Tour de France, Stage 14, 2003 Tour de France, Stage 15, 2003 Tour de France, Stage 16, 2003 Tour de France, Stage 17, 2003 Tour de France, Stage 18, 2003 Tour de France, Stage 19, 2003 Tour de France, Stage 20
Yn wahanol i'r arfer, ni ymwelodd y ras â unrhyw wledydd eraill, gan ail-greu rhan helaeth o lwybr cyntaf y ras a gystadlwyd canrif yn ddiweddarach ym 1903. Roedd gwobr arbennig, y Centenaire Classement ar gyfer y reidiwr gorau dros y chwe cymal â'u gorffen yn cyfateb i Tour 1903 - Lyon, Marseille, Toulouse, Bordeaux, Nantes a Pharis. Enillwyd gan Stuart O'Grady, gyda Thor Hushovd yn ail. Derbyniodd Tour de France 2003 hefyd Wobr Tywysog Asturias am Chwaraeon.
Y ffefryn o'r 198 reidiwr a oed yn cystadlu, oedd Lance Armstrong, a oedd yn anelu am ei bumed fuddugoliaeth a fuasai'n gyfartal gyda'r record ar gyfer y ras. Credwyd mai ei brif wrthwynebwyr yn y ras fyddai Iban Mayo, Aitor González, Tyler Hamilton, Ivan Basso, Gilberto Simoni, Jan Ullrich, a Joseba Beloki. Er iddo fynd ymlaen i ennill y ras, yn ystadegol, ac o'i gyfaddefiad ei hun, dyma oedd perfformiad gwanaf Armstrong dros y saith mlynedd yr enillodd y ras.[2]
Cystadlwyd y Tour yn fwy brwydrol na'r blynyddoedd cynt, ond Armstrong oedd yn fuddugol unwaith eto. Bu Tyler Hamilton a Levi Leipheimer mewn damwain yn duan yn y Tour, gan arwain at Leipheimer i dynnu allan o'r ras, parhaodd Hamilton a gorffennodd yn bedwerydd ond yn reidio gyda pont ei ysgwydd wedi torri.
Yn yr Alpau, ni allai Gilberto Simoni na Stefano Garzelli, a ddaeth yn gyntaf ac yn ail yn y Giro d'Italia yn gynharach yr un flwyddyn, gadw fyny gyda Lance Armstrong a'r ffefrynnau eraill. Roedd yr un peth yn wir am Santiago Botero a orffennodd yn benwerydd y flwyddyn gynt. Llwyddodd Joseba Beloki i gadw fyny, ac roedd yn yr ail safle'n gyffredinol (40 eiliad tu ôl i Armstrong) pan gafodd ddamwain wrth fynd lawr allt cyflym. Achoswyd y ddamwain gan fod ei frêc wedi cloi fyny, oherwydd fod y tar ar y ffordd yn toddi yn y gwres felly roedd diffyg ffrithiant gyda'r ffordd a daeth ei deiar oddiar ymyl yr olwyn.[3] Torrodd Beloki asgwrn dde ei forddwyd, ei benelin a'i arddwrn, a bu'n raid iddo adael y Tour.[4] Cymerodd Armstrong dargyfeiriad drwy gae ger y ffordd er mwyn osgoi taro Beloki ar y ffordd. Roedd Armstrong yn dal gafael ar y crys melyn, ond enillodd Jan Ullrich y treial amser cyntaf o 1 munud a 36 eiliad. Roedd ef ac Alexander Vinokourov o fewn cyrraedd i Armstrong ar y brig.
Mi lwyddodd Armstrong i amddiffyn ei hun yn erbyn yr ymosodiadau, gan gipio ei bumed fuddugoliaeth Tour de France yn ganlynol, ac felly dod yn gyfartal gyda record Jacques Anquetil, Eddy Merckx, Bernard Hinault a Miguel Indurain am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau. Cyn Armstrong, dim ond Indurain oedd wedi ennill pump yn ganlynol. Cyn 2003, doedd Lance Armstrong erisoed wedi ennill y Tour o lai na chwech munud.
Pan mae un reidiwr yn arwain mwy nag un gystadleuaeth ar ddiwedd cymal mae'n derbyn pob crys, ond dim ond un crys gaiff ei wisgo y diwrnod canlynol. Mae'n gwisgo crys y gystadleuaeth pwysicaf (yn y drefn yma - melyn, gwyrdd, dot polca, gwyn). Mae'r crysau eraill a ddeilir gan y reidiwr yn cael eu gwisgo gan y reidiwr sy'n ail yn y gystadlauaeth eilradd hwnnw (neu'r trydydd, pedwerydd reidiwr ayb. fel bo'r angen).
Yng nghymal 1, gwisgodd David Millar y crys gwyrdd.
Yng nghymal 8, gwisgodd Rolf Aldag y crys dot polca.