2008 Tour de France, Stage 1, 2008 Tour de France, Stage 2, 2008 Tour de France, Stage 3, 2008 Tour de France, Stage 4, 2008 Tour de France, Stage 5, 2008 Tour de France, Stage 6, 2008 Tour de France, Stage 7, 2008 Tour de France, Stage 8, 2008 Tour de France, Stage 9, 2008 Tour de France, Stage 10, 2008 Tour de France, Stage 11, 2008 Tour de France, Stage 12, 2008 Tour de France, Stage 13, 2008 Tour de France, Stage 14, 2008 Tour de France, Stage 15, 2008 Tour de France, Stage 16, 2008 Tour de France, Stage 17, 2008 Tour de France, Stage 18, 2008 Tour de France, Stage 19, 2008 Tour de France, Stage 20, 2008 Tour de France, Stage 21
Tour de France 2008 oedd y 95ed rhifyn o'r Tour de France. Fe'i cynhaliwyd rhwng 5 Gorffennaf a 27 Gorffennaf2008. Dechreuodd yn ninas Brest, Ffrainc, gan fynd i'r Eidal yn ystod y 15fed cam, a dychwelyd i Ffrainc yn ystod yr 16ed ac anelu tuag at Baris, ei safle gorffen traddodiadol, a cyrhaeddodd yno yn yr 21fed cam. Enillwyd y ras gan Carlos Sastre.
Yn wahanol i'r blynyddoedd cynt, ni roddwyd bonws amser ar gyfer sbrintiau yn ystod y ras nac am safleodd uchel ar ddiwedd pob cam. Newidiodd hyn y ffordd y gwobrwywyd y Crys Melyn o'i gymharu gyda'r rasys cynt.
Timau
Roedd dadleuon hirfaith wedi bod rhwng trefnwyr y ras, sef yr ASO a'r UCI[1] achoswyd gwerthdaro pellach pan fynnodd y trefnwyr ar yr hawl i wahodd, neu wahardd, p'run bynnag dimau y dewisodd ar gyfer y ras. Ond o dan rheolau'r UCI, mae'n rhaid i bob ras ProTour fod yn agored i bob tîm sy'n aelod o reng uchaf yr UCI. Fe wnaeth yr ASO eu safbwynt yn glir, ac er y bu newidiadau yn rheolaeth a phersonel y tîm, roeddent yn bwriadu gwahardd tîm Astana o'r gystadleuaeth fel canlyniad i'w rhan yn ymrysonau cyffuriau yn ystod Tour de France 2007 a'u cysylltiadau gydag achos cyffuriau Operación Puerto 2006 . Roedd hyn yn golygu na allai enillydd y ras y flwyddyn cynt (Alberto Contador) na'r reidiwr a orffennodd yn drydydd (Levi Leipheimer) gymryd rhan, gan fod y ddau wedi arwyddo cytundeb i rasio dros dim Astana ar gyfer tymor 2008.[2]
Ar 20 Mawrth 2008, datganodd yr ASO y byddai pob tîm ProTour, heblaw am Astana, yn cael eu gwahodd, ynghyd â thri tîm "wildcard": Agritubel, Barloworld, a Team Slipstream-Chipotle (a ail-enwyd yn Team Garmin-Chipotle yn ddiweddarach[3]).
Gwobrwywyd cyfanswm o €3.25 miliwn mewn gworau yn ystod y Tour. Derbyniodd pob tîm €51,243 tuag at costau cymryd rhan yn ogystal, a €1,600 ychwanegol ar gyfer pob reidiwr a gwblhaodd y ras, ond ar yr amod fod oleiaf saith o bob tîm yn gwneud hynny.[7][8]
1af
2il
3ydd
4ydd
5ed
Nodiadau
Pob cam
€8,000
€4,000
€2,000
€1,200
€830
Gwobrau i lawr i'r 20fed safle (€200).
Safleodd cyffredinol
€450,000
€200,000
€100,000
€70,000
€50,000
Mae pob reidiwr sy'n gorffen yn derbyn oleif €400. Mae'r un sy'n gwisgo'r Crys Melyn yn derbyn €350 pob cam.
Cystadleuaeth Bwyntiau
€25,000
€15,000
€10,000
€4,000
€3,500
Arian gwobr ychwanegol i lawr i'r 8fed safle (€2,000). Mae'r arweinydd ar ddiwedd pob cam yn derbyn €300.
Sbrintiau canolog
€800
€450
€300
Mae 45 o'r sbrintiau rhain yn ystod y Tour.
Cystadleuaeth brenin y mynyddoedd
€25,000
€15,000
€10,000
€4,000
€3,500
Arian gwobr ychwanegol i lawr i'r 8fed safle (€2,000). Mae'r arweinydd ar ddiwedd pob cam yn derbyn €300.
Allt Hors categorie
€800
€450
€300
Mae 8 allt HC yn ystod y tour, ac mae €5,000 o wobrau ychwanegol ar gyfer y reidwyr cyntaf drost y Tourmalet (cam 10) a'r Galibier (cam 17).
Allt categori 1
€650
€400
€150
Mae 4 yn ystod y Tour.
Allt categori 2
€500
€250
Mae 5 yn ystod y Tour.
Allt categori 3
€300
Mae 14 yn ystod y Tour.
Allt categori 4
€200
Mae 26 yn ystod y Tour.
Cystadleuaeth y reidwyr ifanc
€20,000
€15,000
€10,000
€5,000
Pae'r reidiwr ifanc cyntaf i orffen pob diwrnod yn derbyn €500, ac arweinydd cystadleuaeth y reidwyr ifanc yn derbyn €300 ar ôl pob cam.
Gwobr y reidiwr mwyaf brwydrol
€20,000
Gwobrwyir wobr o €2,000 ym mhob cam heblaw y treialau amser.
Cystadleuaeth tîm
€50,000
€30,000
€20,000
€12,000
€8,000
Gwobrwyir €2,800 ym mhob cam, i'r tim sydd gyda'r amser cyflymaf ar gyfer eu tri reidiwr cyntaf i orffen.
Yn ôl traddodiad, caiff yr holl arian mae'r tîm yn ei ennill ei roi mewn un pot a'i rannu rhwng y reidwyr a'r tîm cefnogi. Team CSC, sef tîm enillydd y Tour, Sastre, a enillodd y cyfanswm mwyaf o arian, gyda thros €600,000. Ni dderbyniodd Saunier Duval eu gwobrau arian wedi i Riccardo Riccò roi sampl positif i brawf cyffuriau.[9]