Daniel Teklehaimanot

Daniel Teklehaimanot
GanwydDaniel Teklehaimanot Girmazion Edit this on Wikidata
10 Tachwedd 1988 Edit this on Wikidata
Debarwa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethEritrea Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auDimension Data, Cervélo Test, Orica-GreenEDGE, Cofidis Edit this on Wikidata
Safledringwr Edit this on Wikidata

Seiclwr proffesiynol o Eritrea ydy Daniel Teklehaimanot (ganed 26 Ionawr 1990).

Roedd Teklehaimanot yn rhan o raglen hyfforddi Canolfan Seiclo Byd yr UCI cyn arwyddo cytundeb gyda thîm seiclo Awstraldd newydd GreenEDGE yn 2012.[1] Tra yn y Ganolfan, derbyniodd ddiagnosis o tachycardia, a chafodd lawdriniaeth i gywiro hyn yn gynnar yn 2009. Dychwelodd i reidio erbyn mis Mai y flwyddyn honno, gan fynd yn ei flaen i orffen yn chweched yn y Tour de l'Avenir.[2] Yn 2010, bu'n reidio fel prentis dros dîm Cervélo TestTeam. Enillodd deitl cenedlaethol Affricanaidd yn y ras ffordd, treial amser a'r treial amser tîm yn 2010 hefyd, yn y categori o dan 23 yn ogystal â theitl y reidwyr hŷn. Bu'n fuddugol yn y Tour of Rwanda a'r Kwita Izina Cycling Tour, fel rhan o'r UCI Africa Tour 2010–2011[3] Cyfranogodd yng Ngemau Olympaidd 2012, gan ddod yn chwaraewr cyntaf Eritreaidd i wneud hynny tu allan i faes athletau; daeth yn 73ydd safle yn y ras ffordd. Yn 2012, ef oedd yr Eritreaid cyntaf erioed i gystadlu yn La Vuelta, gan ddarfod y ras yn 146ed.

Ymunodd Teklehaimanot â thîm MTN-Qhubeka ar gyfer tymor 2014, dan gytundeb dwy flynedd.[4] Yn 2015, enillodd crys World Tour cyntaf ar gyfer ei dîm yn y Critérium du Dauphiné, pan gipiodd y fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth Brenin y Mynyddoedd.[5] Wrth gystadlu yn Tour de France 2015[6] ynghŷd â Merhawi Kudus,[7] daeth yn Affricanwr croen ddu cyntaf erioed i gychwyn y Tour, pan groesodd y llinell cyntaf fel y reidiwr cyntaf o 198 i gychwyn y prologue.[8]

Daeth Teklehaimanot hefyd yn Affricanwr cyntaf i wisgo'r crys dot polca, wedi iddo ei hennill ar gymal 6 Tour de France 2015.[9]

Canlyniadau

2008
1st National Road Race Championships
5th Overall Tour Ivoirien de la Paix
2009
2nd Overall Tour Eritrea
1st Stages 1 & 3
6th Overall Tour de l'Avenir
2010
1af Pencampwriaethau Affricanaidd Treial Amser Tîm
1af Pencampwriaethau Affricanaidd Treial Amser
1af Pencampwriaethau Affricanaidd Ras Ffordd
1af Tour of Rwanda
1af Cymal 2
1af Cymal 2 Coupe des Nations Ville Saguenay
2011
1af Pencampwriaethau Affricanaidd Treial Amser Tîm
1af Pencampwriaethau Affricanaidd Treial Amser
1st Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser
1af Kwita Izina Tour
1af Cymal 1, 2 a 3
1af Cymal 5 Tour d'Algérie
5ed Tropicale Amissa Bongo
1af Cymal 4
2012
1af Pencampwriaethau Affricanaidd Treial Amser Tîm
1af Pencampwriaethau Affricanaidd Treial Amser
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser
2013
1af Pencampwriaethau Affricanaidd Treial Amser Tîm
1af Pencampwriaethau Affricanaidd Treial Amser
1af Prueba Villafranca de Ordizia
2014
4ydd Mzansi Tour
2015
1af Pencampwriaethau Affricanaidd Treial Amser Tîm
2il Pencampwriaethau Affricanaidd Treial Amser
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser[10]
1af Brenin y Mynyddoedd Critérium du Dauphiné
Tour de France
Deilydd Cymal 6−

Cyfeiriadau

  1. Carrey, Pierre (4 August 2011). "Teklehaymanot signs for GreenEdge". cyclingnews.com. Cyrchwyd 5 August 2011.
  2. Lee, Sean (17 August 2012). "Teklehaimanot is a stage racer in the making". theroar.com. Cyrchwyd 8 June 2015.
  3. Arinaitwe, Ostine (13 June 2011). "Rwanda: Teklehaimanot Wins Kwita Izina". allafrica.com. Cyrchwyd 5 August 2011.
  4. "Teklehaimanot moves to MTN-Qhubeka". Cyclingnews.com. Future plc. 10 October 2013. Cyrchwyd 14 December 2013.
  5. "MTN-Qhubeka celebrate maiden WorldTour jersey at Critérium du Dauphiné". Cyclingnews.com. Future plc. 15 June 2015. Cyrchwyd 15 June 2015.
  6. "2015 Tour de France start list". Velo News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-29. Cyrchwyd 2 July 2015.
  7. Cummings, Basia (10 July 2015). "Daniel Teklehaimanot: 'I'm proud to be an Eritrean riding the Tour de France'". theguardian.com. Cyrchwyd 10 July 2015.
  8. "Daniel Teklehaimanot becomes first African to compete in Tour de France". thenational.ae. 4 July 2015. Cyrchwyd 5 July 2015.
  9. "Martin abandons Tour de France due to fractured collarbone". Cyclingnews.com. Immediate Media Company. 9 July 2015. Cyrchwyd 9 July 2015.
  10. Clarke, Stuart (26 June 2015). "Nationals roundup: who are the new champions around the world?". Cycling Weekly. Cyrchwyd 27 June 2015.

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: