Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Y Rhws (Saesneg: Rhoose). Saif yn ne'r sir ar lan Môr Hafren, 2 filltir i'r gorllewin o'r Barri i'r de-orllewin o Gaerdydd.
Mae'r Rhws yn adnabyddus yn bennaf erbyn heddiw fel lleoliad Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, prif faes awyr Cymru. Mae'r pentref yn datblygu'n gyflym mewn canlyniad.
Hanner milltir i'r de o'r pentref ceir Trwyn y Rhws, pwynt mwyaf deheuol Cymru.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Kanishka Narayan (Llafur).[2]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Y Rhws (pob oed) (6,160) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Rhws) (601) |
|
10.1% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Rhws) (4522) |
|
73.4% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Rhws) (754) |
|
29.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau