Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Sain Tathan (Saesneg: St Athan). Saif ar Afon Ddawan, heb fod ymhell o'r arfordir ac i'r dwyrain o Lanilltud Fawr. Yn Chwefror 2016 cyhoeddodd Aston Martin eu bwriad i greu ffatri cynhyrchu ceir a fyddai'n cyflogi oddeutu mil o swyddi.
Enwir y pentref ar ôl y santes Tathan, oedd yn ôl Iolo Morgannwg yn ferch i frenin Gwent. Cysegrwyd eglwys y pentref iddi.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.