Pentref a phlwyf yn nwyrain Bro Morgannwg yw Llwyneliddon (Saesneg: St. Lythans). Ceir y ffurf Llaneliddon hefyd weithiau, ond Llwyneliddon yw'r enw Cymraeg swyddogol.
Gorwedd Llwyneliddon rhwng pentrefi Gwenfô a Sain Nicolas, ychydig dros 4 milltir i'r gorllewin o ganol dinas Caerdydd.
Cysylltir y plwyf â SantEliddon (amrywiadau, Elidon ac Elidan), ond cysegrir yr eglwys i Sant Bleiddan (amrywiad, Bleiddian). Mewn canlyniad arferid galw'r pentref yn Llanfleiddan Fach i wahaniaethu rhyngddo a Llanfleiddan Fawr ger Y Bont-faen.
Ar gyrion y pentref, ger plasdy'r Dyffryn, ceir cromlech nodedig o'r enw Llech y Filiast sy'n dwyn cymhariaeth â'r enghraifft enwog yn Tinkinswood gerllaw.