Pentref yng nghymuned Sain Dunwyd, Bro Morgannwg, de Cymru, yw Marcroes (Saesneg: Marcross).
Gorwedd y pentref tua dwy filltir a hanner i'r gorllewin o Lanilltud Fawr a milltir i'r gogledd-orllewin o bentref Sain Dunwyd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[2]
Cyfeiriadau