Uwchgynhadledd NATO, 2024

Uwchgynhadledd NATO, 2024
"Llun teulu" NATO: pennau gwladwriaethol a llywodraethol o'r holl 32 o aelod-wladwriaethau NATO, yn ogystal ag Ysgrifennydd Cyffredinol NATO.

Rhes gefn (o'r chwith i'r dde): Edgars Rinkēvičs, Arlywydd Latfia; Gitanas Nausėda, Arlywydd Lithwania; Luc Frieden, Prif Weinidog Lwcsembwrg; Milojko Spajić, Prif Weinidog Montenegro; Dick Schoof, Prif Weinidog yr Iseldiroedd; Hristijan Mickoski, Prif Weinidog Gogledd Macedonia; Jonas Gahr Støre, Prif Weinidog Norwy; Andrzej Duda, Arlywydd Pwyl; Luís Montenegro, Prif Weinidog Portiwgal; Klaus Iohannis, Arlywydd Rwmania; Peter Pellegrini, Arlywydd Slofacia.
Rhes ganol: Zoran Milanović, Arlywydd Croatia; Petr Pavel, Arlywydd Tsiecia; Mette Frederiksen, Prif Weinidog Denmarc; Kaja Kallas, Prif Weinidog Estonia; Alexander Stubb, Arlywydd y Ffindir; Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc; Olaf Scholz, Canghellor yr Almaen; Kyriakos Mitsotakis, Prif Weinidog Groeg; Viktor Orbán, Prif Weinidog Hwngari; Bjarni Benediktsson, Prif Weinidog Gwlad yr Iâ; Giorgia Meloni, Prif Weinidog yr Eidal.

Rhes flaen: Justin Trudeau, Prif Weinidog Canada; Dimitar Glavchev, Prif Weinidog Bwlgaria; Edi Rama, Prif Weinidog Albania; Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau; Jens Stoltenberg, Ysgrifennydd Cyffredinol NATO; Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig; Recep Tayyip Erdoğan, Arlywydd Twrci; Ulf Kristersson, Prif Weinidog Sweden; Pedro Sánchez, Prif Weinidog Sbaen; Robert Golob, Prif Weinidog Slofenia.
Enghraifft o:NATO summit Edit this on Wikidata
Dechreuwyd9 Gorffennaf 2024 Edit this on Wikidata
Daeth i ben11 Gorffennaf 2024 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan2023 Vilnius summit Edit this on Wikidata
Olynwyd gan2025 The Hague summit Edit this on Wikidata
LleoliadWashington Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cynhaliwyd 34ain Uwchgynhadledd NATO o Ddydd Mawrth 9 Gorffennaf i Ddydd Iau 11 Gorffennaf 2023 yn Washington, D.C., prifddinas Unol Daleithiau America. Nodai 75 mlynedd ers sefydlu'r cynghrair milwrol gan Gytundeb Gogledd yr Iwerydd ym 1949.

Yn ogystal â phennau aelod-wladwriaethau NATO, gwahoddwyd hefyd gweinidogion tramor Armenia, Aserbaijan, a Georgia, dirprwy brif weinidog Awstralia, prif weinidogion Japan a Seland Newydd, arlywyddion De Corea ac Wcráin, ac i gynrychioli'r Undeb Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, a Charles Michel, Arlywydd y Cyngor Ewropeaidd. Hon oedd yr uwchgynhadledd gyntaf ers i Sweden ymaelodi â NATO ym Mawrth 2024, a'r uwchgynhadledd olaf i'w chadeirio gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol Jens Stoltenberg. Hon oedd yr uwchgynhadledd gyntaf i'w mynychu gan Keir Starmer, a benodwyd yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig pedwar diwrnod cyn dechrau'r cyfarfod.

Un o brif ddatblygiadau'r uwchgynhadledd oedd cynllun i ddanfon taflegrau pellgyrhaeddol o'r Unol Daleithiau i'r Almaen am y tro cyntaf ers diwedd y Rhyfel Oer.[1]

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Paul Kirby, "US cruise missiles to return to Germany, angering Moscow, BBC (11 Gorffennaf 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Gorffennaf 2024.