Diplomydd rhyngwladol sydd yn gwasanaethu fel prif swyddog NATO yw Ysgrifennydd Cyffredinol NATO. Mae'n gyfrifol am gydgysylltu gwaith y cynghrair, yn bennaeth Cyngor Gogledd yr Iwerydd, yn brif lefarydd y cynghrair, ac yn arwain staff NATO. Jens Stoltenberg, cyn-Brif Weinidog Norwy, yw Ysgrifennydd Cyffredinol cyfredol NATO.