Sir seremonïol a sir hanesyddol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ar y ffin â Chymru, yw Swydd Henffordd (Saesneg: Herefordshire). Dinas Henffordd yw ei chanolfan ac mae'n ffinio gyda Swydd Amwythig i'r gogledd, Gwent i'r de-orllewin a Phowys i'r gorllewin. Mae gan ddinas Henffordd boblogaeth o oddeutu 55,800 ond mae'r sir ei hun yn denau iawn ei phoblogaeth gyda dwysedd poblogaeth o 82/km² (212/mi sg). Mae llawer o'r sir yn dir amaethyddol a cheir canran uchel yn dir tyfu ffrwythau (afalau seidr) a gwartheg Henffordd.
Hanes
Mae Swydd Henffordd yn un o 39 swydd hanesyddol Lloegr (Ancient counties of England). Yn 1974 cafodd ei huno gyda Swydd Gaerwrangon i ffurfio sir Henffordd a Chaerwrangon. Daeth y sir i ben yn 1998.[1]
Fe glywid y Gymraeg yn cael ei siarad mewn rhannau o'r sir hyd c. 1890 e.e. yn Ffwddog, Cwm-iou a Llanddewi Nant Hodni.[2]
Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth
Ardaloedd awdurdod lleol
Nid yw'r sir wedi'i rhannu'n ardaloedd awdurdod lleol; gweinyddir y sir gyfan fel awdurdod unedol, sef Swydd Henffordd (awdurdod unedol).
Etholaethau seneddol
Rhennir y sir yn ddwy etholaeth seneddol yn San Steffan:
Cyfeiriadau