Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Welsh Newton.[1] Saif tua 3 milltir i'r gogledd o Drefynwy yng Nghymru.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 316.[2]
Traddodiad gwerin
Yn 1913 sylwodd yr hanesydd o Gernywiad John Hobson Matthews (“Mab Cernyw”) fod clychau eglwys Welsh Newton, yn ôl y gred gyffredinol, yn llafarganu "Erfin, cawl erfin". Deëllir bod hyn, ychwnanega, yn cyfeirio at lymder y plwyf.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ British Place Names; adalwyd 28 Ebrill 2022
- ↑ City Population; adalwyd 28 Ebrill 2022
- ↑ John Hobson Matthew, "The Folk-speech of Monmouth and the Neigbourhood", Archaeologia Cambrensis 13 (1913), t.171: “The bells of Welsh Newton, Herefordshire, are supposed to say: - "Erfin, cawl erfin" - turnips, turnip broth. This is taken to refer to the bareness of that parish.”