Yr un tarddiad sydd i'r enw "Cumbria" â'r gair "Cymru"; yn wir, yn yr ardal hon y siaradwyd Hen Gymraeg ddiwethaf yng ngwledydd Prydain ar wahân i Gymru a Chernyw[1] ac efallai Ystrad Clud yn yr Alban. Gair arall am yr iaith ar yr adeg hon yw Cymbrieg, sy'n air academaidd mewn gwirionedd. Mae'r cofnod cynharaf sydd ar glawr o'r gair Hen SaesnegCumberland yn dyddio o 945; ei ystyr yw "Tir y Cymry".
Roedd Rheged, un o deyrnasoedd Brythonig yr Hen Ogledd yn cynnwys y cyfan o'r ardal a adnabyddir heddiw fel Cumbria. Ymhlith y brenhinoedd Brythonig yr oedd Urien Rheged (canodd Taliesin iddo), Owain, Dyfnwal ab Owain, a Mael Coluim[angen ffynhonnell]. Yn y 7g, daeth o dan deyrnas Northumbria a'i arweinydd Ecgfrith.