- Erthygl am y sir seremonïol yn Lloegr yw hon. Am yr awdurdod unedol o'r un enw gweler Swydd Durham (awdurdod unedol).
Sir seremonïol a sir hanesyddol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr yw Swydd Durham (neu Caerweir) (Saesneg: Durham neu County Durham). Ei chanolfan weinyddol yw Durham.
Mae Swydd Durham yn rhan o Esgobaeth Gatholig Hexham a Newcastle, ac Esgobaeth Anglicanaidd Durham.
Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth
Ardaloedd awdurdod lleol
Rhennir y sir yn bedwar awdurdod unedol:
- Swydd Durham (awdurdod unedol)
- Bwrdeistref Hartlepool
- Bwrdeistref Darlington
- Bwrdeistref Stockton-on-Tees (Y rhan ogleddol. Lleolir y rhan ddeheuol yn sir seremonïol Gogledd Swydd Efrog.)
Etholaethau seneddol
Rhennir y sir yn naw etholaeth seneddol yn San Steffan: