Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ewyas Harold.[1] Gorwedd tua 10 milltir i'r de-orllewin o dref Henffordd, tua milltir yn unig o'r ffin â Chymru.
Mae'r Ewyas yn yr enw yn cyfeirio at hen gwmwd ac arglwyddiaeth Cymreig Ewias, a fu'n rhan o deyrnas Gwent yn yr Oesoedd Canol. Codwyd Castell Ewyas Harold yma gan arglwydd Normanaidd lleol ar ôl i'r Normaniaid gipio Ewias ar ddiwedd yr 11g. Tua 3 milltir i'r gogledd ceir adfeilion Abaty Dore.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 883.[2]
Cyfeiriadau