Saif Safle Rufeinig Caerau i'r de o bentref Beulah, Powys, gerllaw afon Cammarch, Cyf. OS SN923502.
. Cafwyd hyd i'r safle yn ystod arolwg o'r awyr yn Ebrill 1960.
Ar y safle, mae caer Rufeinig gydag arwynebedd o tua dwy acer. Cafwyd hyd i grochenwaith a ddyddiwyd i tua 75 - 90 OC. Ymddengys i'r amddiffynfeydd gael eu cryfhau tua dechrau'r 2g.
Tu allan i'r gaer, mae olion vicus, gyda nifer o adeiladau, a baddondy. I'r gogledd o'r gaer, mae olion gwersyll dros-dro, gydag arwynebedd o 36 acer. Ymddengys hefyd fod dau wersyll ymarfer i'r de o'r gaer.
Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: BR148.[1]
Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
- Symons, S. Fortresses and treasures of Roman Wales (Breedon Books, 2009)