Fe'i canfuwyd yn agos i'r ystad dai a adnabyddir fel Roman Way, ar lan orllewinol Afon Nedd. Roedd y gaer yn gorchuddio ardal eang sy'n gorwedd dan feysydd chwarae Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin heddiw.
Codwyd caer bren yno tua'r flwyddyn 75 OC yng nghyfnod y llywodraethwr Julius Frontinus. Tynwyd y gaer gyntaf honno i lawr a chodi un o gerrig yn ei lle tua'r flwyddyn 120 OC, ond ymddengys mai bur fu ei barhad. Mae rhannau o'r pyrth deheuol a de-ddeheuol i'w gweld ac mae rhai rhannau eraill o'r safle wedi'u cloddio gan archaeolegwyr.[1]
Roedd yn mesur tua 525m wrth 525m ac yn ddigon mawr i fod yn wersyll i tua 500 o filwyr. Cysylltiai ffordd Rufeinig caer Nidum gyda Maridunum (Caerfyrddin) i'r gorllewin a Viroconium (Caerwrygion) i'r dwyrain.[2]
Mae darganfyddiadau o'r safle i'w gweld yn Amgueddfa Castell-nedd.
Cadw
Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: GM215.[3]