Pentref bach yng nghymuned Llanfynydd, Sir y Fflint, Cymru, ydy Pontybotgyn ( ynganiad ), weithiau Pontybotgin neu Pont-y-botcin neu Pontybodkin.[1][2] Dydy'r enw Cymraeg ddim yn cael ei ddangos ar unrhyw arwydd y tu allan y pentref, nac ynddo chwaith.
Mae'r pentref, fel Pontblyddyn a Choed-talon gerllaw, yng nghyffiniau Coed-Llai. Dyma'r unig pentref yng nghyffiniau Coed-Llai i fod heb dafarn.
Mae ganddo glwb bowlio sy'n cystadlu ar hyd a lled Sir y Fflint.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]
Cyfeiriadau