Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Llaneurgain ( ynganiad ) (Saesneg: Northop). Fe'i lleolir hanner ffordd rhwng Yr Wyddgrug a'r Fflint, ar groesffordd 33 ar yr A55, tua 12 milltir i'r gorllewin o ddinas Caer. Yng Nghyfrifiad 2001 roedd gan y pentref boblogaeth o 2,983,[1] ac erbyn 2011 roedd yma 3,049.[2]
Mae ganddo boblogaeth o tua 3000. Ceir dwy dafarn, clwb criced a chlwb golff ynddo. Yng nghanol y pentref saif eglwys Sant Eurgain a Sant Pedr, gyda'i chlochdy'n codi 98 troedfedd uwchben y pentref. Ceir ynddo yn ogystal Goleg Garddwriaeth, sydd bellach yn cael ei reoli gan Brifysgol Glyndŵr a Choleg Cambria.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[4]
Yr eglwys
Yn ôl traddodiad sefydlwyd 'Eglwys Santes Eurgain' yn y 6g; newidiwyd ei henw'n ddiweddarach i Eglwys y Santes Eurgain a Sant Paul. Dywedir fod Eurgain, nith Sant Asaph, wedi ei sefydlu ar ben twmpath cynhanesyddol, lle y saif hyd heddiw. Ceir cofnodion o'r 12g am y gwaith o godi'r eglwys, gyda'r clochdy'n cael ei ychwanegu yn 1571. Cafodd yr adeilad presennol ei atgyweirio'n sylweddol yn 1840 ac eto yn 1877. Mae'r eglwys yn sedd i blwyf Llaneurgain o hyd, sy'n cynnwys Llaneurgain ei hun, Neuadd Llaneurgain, Sychdyn, Helygain, Rhosesmor, a Mynydd y Fflint. Yn y gorffennol roedd yn cynnwys Cei Connah hefyd.
Yn y fynwent ceir hen adeilad ysgol ramadeg Llaneurgain, a godwyd yn y 16g.
Cofrestrwyd yr eglwys berpendicwla hon yn adeilad Gradd I yn Nhachwedd 1962 oherwydd ei dŵr, tŵr tebyg i dyrau Wrecsam a Gresffordd a rhannau o'r Oesoedd Canol.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Llaneurgain (pob oed) (3,049) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llaneurgain) (503) |
|
17.1% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llaneurgain) (1562) |
|
51.2% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llaneurgain) (386) |
|
30.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Pobl o Laneurgain
Cyfeiriadau