Enwir y pentref ar ôl y Ffynnongroyw, ffynnon naturiol mewn llecyn ym mhen Lôn y Ffynnon. Ceir carreg yn do arni a gril (diweddar) i'w hamddiffyn. Tu ôl i'r pentref cyfyd bryniau cyntaf Bryniau Clwyd, gan ffurfio ymyl ddwyreiniol Dyffryn Clwyd. Mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn mynd rhwng y pentref a'r arfordir, ond does dim gorsaf yno.