Cofnodir yr eglwys gyntaf yn 1291. Ar un adeg roedd plwyf Cilcain yn cynnwys Cefn, Llan (neu Tre'r Llan), Llystynhunydd (neu Glust), Llys y Coed, Maes y Groes, Mechlas (neu Dolfechlas) a Trellyniau; erbyn hyn mae gryn dipyn yn llai.
Codwyd ysgol trwy danysgrifiad cyhoeddus yn y pentref yn 1799. Mae adeilad yr ysgol yn dŷ preifat erbyn heddiw. Cynhelir Gŵyl Cilcain bob blwyddyn i hybu'r celfyddydau a diwylliant.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.