Gwleidydd Llafur Cymru yw Susan Lesley Griffiths AC, a adwaenir fel Lesley Griffiths (ganwyd 1960) sydd yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth Wrecsam ers 2007.[3]
Bu'n gweithio fel ysgrifennydd i John Marek a chynorthwy-ydd etholaeth i Ian Lucas, dau gyn Aelod Seneddol dros Wrecsam. Yn 2011, fe'i penodwyd yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.[4] swydd y bu ynddi hyd fis Mawrth 2012. Mae hi ar hyn o bryd yn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.[5]
Gyrfa wleidyddol
Ymgyrch 2003
Cafodd John Marek ei dynnu o restr ymgeiswyr y Blaid Lafur yn 2003 wedi iddo gael sawl anghytundeb gyda'i blaid; fe aeth ati i apelio yn erbyn y penderfyniad. Yn dilyn ymchwiliad gan y Blaid Lafur, lle cysylltwyd â Marek yn gyntaf dros y ffôn hanner awr cyn cyhoeddi'r canlyniad, cafodd y penderfyniad ei gadarnhau, a phenderfynodd Marek ymladd i gadw'i sedd fel aelod Annibynnol.[6] Dewiswyd Griffiths i'w olynu fel ymgeisydd swyddogol y Blaid Lafur a gwynebodd frwydr yn ystod yr ymgyrch; dangosodd arolwg cynnar bod Marek yn ei churo o 40% i 29%.[7] Ar ddiwrnod yr etholiad, roedd Griffiths wedi cau'r bwlch, ond fe gollodd o 973 pleidlais.
Etholiad 2007
Yn Rhagfyr 2005 cafodd ei dewis unwaith eto fel ymgeisydd Llafur etholaeth Wrecsam yn etholiad y Cynulliad, 2007. Fe elwodd o gymorth proffil uchel wrth i'r blaid weld cyfle i adennill y sedd; apeliodd John Marek at y boblogaeth o fewnfudwyr Pwylaidd drwy gyfieithu ei ddeunydd etholiadol i Bwyleg.[8] Fodd bynnag, cynyddodd Griffiths nifer ei phleidlais tra disgynnodd pleidlais Marek, ac enillodd hi'r sedd gyda mwyafrif o 1,250.
Yn 2011, cystadlodd Griffiths yn erbyn Marek am y trydydd tro, er bod Marek erbyn hyn wedi ymuno â'r Ceidwadwyr. Fe wnaeth y ddau gynyddu eu pleidleisiau o'i gymharu â 2007, ond cadwodd Griffiths sedd gyda chynnydd yn ei mwyafrif o 3,337.[9] Ail-ddewiswyd Griffiths i amddiffyn ei sedd yn etholiad 2016.[10]
Cyfrifoldeb gweinidogol
Penodwyd Griffiths yn Ddirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau yn Rhagfyr 2009.[11] Ar ôl etholiad 2011, cafodd ei dyrchafu'n Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a bu yn y swydd tan fis Mawrth 2013, pan y penodwyd hi'n Weinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Bywyd personol
Wedi bod yn un o gefnogwyr Clwb pêl-Droed Wrecsam, cafodd Griffiths ei ethol i fwrdd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol